Addysg Gorfforol

Cymhwyster
UG & U
Canlyniadau
Gradd A*-A: 55%, Gradd A*-B: 64% (2018)
Bwrdd Arholi
CBAC

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at fyfyrwyr sy’n caru chwaraeon ac sydd eisiau astudio chwaraeon, gyda ffocws penodol ar yr ochr damcaniaethol.

Bydd y cwrs yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau a thechnegau angenrheidiol:

- i berfformio’n effeithiol mewn gweithgarwch corfforol;

- ar gyfer rolau megis perfformwyr, arweinydd a swyddog gweithgarwch corfforol;

- i ddeall ffactorau gwahanol sy’n galluogi perfformwyr i fod yn egnïol yn gorfforol;

- i ddeall sut gall perfformwyr gwneud y fwyaf o’r gyfleoedd a llwybrau sydd ar gael.

- i ddeall a gwerthuso dylanwadau allweddol a allai gyfyngu neu annog cyfranogiad pobl ifanc.

Sut Mae'r Cwrs yn Cael ei Asesu?

Lefel UG (blwyddyn 1)

Arholiad (1 awr 45 munud) yn cynnwys cwestiynau strwythuredig gorfodol ac un cwestiwn traethawd
Perfformiad ymarferol mewn un chwaraeon

Hyfforddi/gweinyddu

Gwaith cwrs (2000 o eiriau) proffil perfformiad ymarferol

Meysydd theori UG:

Dewisiadau ffordd o fyw (iechyd, ffitrwydd a hamdden), cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol (dwysedd hyfforddi, adfer, seicoleg, a.y.y.b.), maeth (deiet cytbwys, hydradiad, a.y.y.b.).


Safon Uwch (blwyddyn 2)


Arholiad (2 awr) yn cynnwys cwestiynau strwythuredig a un cwestiwn traethawd

Perfformiad ymarferol mewn un gamp neu hyfforddi/gweinyddu

Gwaith cwrs - ymchwil archwiliol 3000 o eiriau

Meysydd theori Safon Uwch:

Mireinio perfformiad a gwella iechyd (dadansoddi perfformiad, rheoli pryder, cymhelliant, a.y.y.b), dylanwadau cyfoes (drefnu chwaraeon, cyffuriau mewn chwaraeon, noddi, datblygiadau technolegol mewn chwaraeon a.y.y.b).

Beth Nesaf?

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i arfogi unigolion â’r wybodaeth, dealltwriaeth a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant yn y diwydiannau chwaraeon a hamdden, neu ar gyfer mynediad i raglenni cenedlaethol uwch neu radd israddedig mewn Addysg Gorfforol, Gwyddorau Chwaraeon, Datblygu Chwaraeon neu Hyfforddi Chwaraeon. Mae’n bosib caniatáu dilyniant i raglenni ffisiotherapi gyda chymhwyster gwyddoniaeth ychwanegol (Bioleg).

Gofynion Mynediad Penodol

6 TGAU A*-C. Gradd BB neu’n uwch TGAU Gwyddoniaeth yn orfodol, gradd B neu uwch TGAU Addysg Gorfforol a gradd C neu’n uwch Saesneg yn orfodol.

Anrhydeddau mewn o leiaf y canlynol: Lefel uchel glwb a / neu sir / ardal neu’r cyfwerth ar gyfer y gweithgaredd.

Rhaid i ddatganiad ynghylch lefel perfformiad yn y gamp(au) cael eu darparu a’u llofnodi gan dyst cyfredol (hyfforddwr, athro Addysg Gorfforol).

Ychwanegu i'r Basged