31 Aws

Gwybodaeth Streic Bws Caerdydd - Dydd Mercher, Medi'r 2il

Neges oddi wrth Fws Caerdydd: 

"Mae rhai o'n gyrwyr yn cynnal nifer o streiciau. I weld amserlen ddiwygiedig ar gyfer Dydd Mercher Medi'r 2il, cliciwch yma: www.cardiffbus.com

Rydym wedi cael gwybod am ddyddiadau streicio, sef:

  • Dydd Mercher, Medi 2 (1 diwrnod)
  • Dydd Sadwrn, Medi 5  (1 diwrnod)
  • Dydd Sadwrn a Dydd Sul, Medi 19 a 20 (2 diwrnod)
  • Dydd Mercher, Medi 23 (1 diwrnod)
  • Dydd Iau a Dydd Gwener, Hydref 1 a 2 (2 diwrnod)
  • Dydd Sul, Hydref 11 (1 diwrnod)
  • Dydd Sadwrn a Dydd Sul, Hydref 17 a 18 (2 diwrnod)

 

Rydym yn gwneud popeth y gallwn er mwyn sicrhau gwasanaeth sylfaenol yn ystod y diwrnodau streic yma. Gwiriwch eich siwrne cyn teithio os gwelwch yn dda - byddwn yn cadw ein gwefan, tudalen Gweplyfr a phorth Trydar yn gyfredol gyda manylion am ba wasanaethau sy'n rhedeg, yn ogystal ag amserlen bws diwygiedig. Bydd Traveline Cymru ar gael i gynnig cymorth dros y ffon, a gallwch gysylltu â nhw ar 0871 200 22 33 rhwng 7yb a 9yh pob dydd.
 
Diolch am eich amynedd a'ch cefnogaeth. Rydym yn addo i wneud popeth y gallwn er mwyn sicrhau eich bod yn cyrraedd eich cyrchfan"