Mae Coleg Dewi Sant yn cynnig cyrsiau Lefel 3 (Lefel A a BTEC) a Lefel 2 (TGAU a BTEC). Defnyddiwch y dolennau isod i ddarganfod mwy am bob cwrs sydd ar gael.
Mae Coleg Dewi Sant yn cynnig cyrsiau Lefel 3 (Lefel A a BTEC) a Lefel 2 (TGAU a BTEC). Defnyddiwch y dolennau isod i ddarganfod mwy am bob cwrs sydd ar gael.
Fel rhan o Wythnos Wyddoniaeth Prydain 2017, wnaeth y trydydd Digwyddiad Gyrfaoedd STEM blynyddol parhau i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn cyflogaeth ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).
Ar 15fed o Fawrth, wnaeth myfyrwyr o Goleg Dewi Sant, ein hysgolion partner a'u rhieni cael y cyfle i fynychu darlithoedd ac i gael sgyrsiau un-i-un gyda chyflogwyr a phrifysgolion lleol allweddol. Yn ychwanegol, diolch i rodd gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain, roedd digwyddiad eleni ar agor i’r cyhoedd ehangach, sy’n dangos ymrwymiad Coleg Dewi Sant i fod yn goleg ar gyfer y gymuned gyfan.
Yn bresennol eleni roedd cynrychiolwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymry, Prifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste yn ogystal â chyflogwyr a phobl broffesiynol sy’n amrywio o wyddonwyr, arholwyr patent, ystadegwyr lleol allweddol, ffisiotherapyddion, optegwyr, peirianwyr a llawer mwy wrth law i gynnig arweiniad i fyfyrwyr sy’n ystyried addysg uwch a gyrfaoedd mewn STEM yn y dyfodol.
Eleni roeddem yn falch iawn o gynnal cyfres o ddarlithoedd lle'r oedd gan fyfyrwyr y cyfle i ddysgu mwy am eu dilyniant mewn STEM, yn ogystal â dewisiadau gyrfa benodol. Roedd ein siaradwyr gwadd yn cynnwys Sophie Timbers sydd yn Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, a siaradodd am sut beth yw bywyd yn y brifysgol, yn ogystal â Dr Emma Yhnell, Athro Haley Gomez, Rae Pass a Dr Lucy Sykes a siaradodd am eu rôl fel menywod blaengar mewn arloesi gwyddonol.
Cafodd y digwyddiad ei gynllunio i gynorthwyo ein myfyrwyr i feddwl am eu llwybrau gyrfa yn y dyfodol, i ago reiu llygaid i’r swyddi efallai nad ydynt yn ymwybodol am, ac i’w cynorthwyo i symud ymlaen i’r brifysgol. Rhoddodd y noson cyfle gwych i siarad ag arbenigwyr yn eu maes ac i drafod y llwybrau posibl i mewn i’r yrfa yna i’r myfyrwyr.
Rydym am roi diolch arbennig i’r holl arddangoswyr a fynychodd a wnaeth y digwyddiad yn bosib ac i’r Gymdeithas Wyddoniaeth Brydeinig a rhoddodd eu cefnogaeth ariannol ar gyfer y digwyddiad hwn fel rhan o Wythnos Wyddoniaeth Prydain 2017.
“Roedd yn wych i fod yn rhan o'r digwyddiad ac roedden ni'n brysur iawn yn ystod y noson - roedd yna ddiddordeb gwirioneddol, ac ymgysylltu gan eich myfyrwyr, roedd yn brofiad arbennig”
Sera Evans-Fear
Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr, Prifysgol De Cymru
“Cefais fy mhlesio gan ba mor dda roedd y digwyddiad yn rhedeg, roedd y llysgenhadon a staff yn rhagorol, cyfeillgar, croesawgar a chynorthwyol iawn."
Sam Baker
Peirianneg Ansawdd, GE Aviation
“Rydym wedi mwynhau'r digwyddiad yn fawr iawn, mae eich myfyrwyr yn glod i chi ac roedd yn bleser i gwrdd â nhw.”
Dr Cathryn Withycombe
Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
“Trefnwyd y digwyddiad yn arbennig o dda gydag amrywiaeth eang o opsiynau gyrfa ac astudiaeth, rhai ohonynt nad oedd wedi cael ei ystyried cyn dod i'r digwyddiad.
Roedd yn diddorol iawn ac yn llawn gwybodaeth a bu staff y Coleg a'u cydweithwyr ar y stondinau i gyd yn groesawgar, yn frwdfrydig, ac yn wybodus. Roedd y noson wedi rhagori ar ein disgwyliadau.”
Rhiant ymgeisydd Medi 2017