01 Maw

Myfyrwyr yn sefydlu grŵp cynaliadwyedd

Yn 2016, dywedodd Llywydd Fforwm Ieuenctid Cyngor Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig (ECOSOC) wrth gannoedd o bobl ifanc eu bod nhw yn allweddol i'r agenda cynaliadwyedd a'r ymdrechion byd eang. Anogwyd nhw i anelu’n uchel ac i fod yn uchelgeisiol eu nodau a’u hamcanion a heddiw gwelwn pobl ifanc yn gwneud hynny – o Greta Thunberg i fyfyrwyr yn ceisio gwireddu newid yn eu hardaloedd lleol. Cydiodd myfyrwyr chweched dosbarth Coleg Catholig Dewi Sant, wedi’u lleoli ym Mhenylan, yn yr awenau, gan sefydlu grŵp cynaliadwyedd yn y coleg i annog camau gweithredu.

 

“Dw i’n credu ei bod yn eithriadol o bwysig bod pawb yn ymwybodol o gyflwr amgylcheddol y ddaear a'n cymunedau ar hyn o bryd. Ni yw arweinwyr y dyfodol, felly mae’n bwysig i gychwyn gweithredu cyn gynhared â phosibl fel y gallwn ddysgu gwell strategaethau ar gyfer delio â phryderon am yr amgylchedd cyn, gobeithio, cyrraedd llwyfannau mwy,” meddai Willow Pugh sy’n 16 oed ac yn astudio Celf, Bioleg a Daearyddiaeth. Ymunodd Willow â Choleg Dewi Sant am ei bod yn chwilio am brofiad newydd a theimlai y byddai’r coleg yn fwy tebygol o ysgogi ei diddordebau nag ysgol uwchradd. Erbyn hyn, mae’n aelod allweddol o’r grŵp, wedi’i sbarduno gan yr angen taer i weithredu oherwydd fod newid yn yr hinsawdd eisoes yn dechrau effeithio ar ei chenhedlaeth hi.

 

Nid hi ydy’r unig un. Mae Eyitemi Smith sydd hefyd yn 16 oed, am wella cynaliadwyedd a chodi ymwybyddiaeth o’r broblem hon yn y coleg a thu hwnt, gyda’r nod o gyflawni dyfarniad Baner Werdd Ysgolion Eco yn ystod eu hamser yma. Dywedodd: “Pan ddes i’r coleg, roeddwn yn teimlo bod angen gwneud mwy i wella amgylchedd y safle. Gall y coleg gyfrannau at ddatblygiad byd sy’n fwy eco-gyfeillgar ac un sy’n cael ei yrru gan gymunedau.”

 

Mae myfyrwyr 'Generation Z' yn galw’n fynych am fwy gan eu sefydliadau addysgol, o golegau i brifysgolion. Mae 94% o fyfyrwyr yn credu y dylai prifysgolion yn arbennig fod yn gwneud rhagor o ran cynaliadwyedd ac yn naturiol, disgwylir y byddai hyn yn wir am golegau hefyd, yn enwedig wrth i fwy o bobl ifanc mwy ‘gwyrdd’ eu hanian weithio i gadw’r mater yn fyw ym meddyliau pobl.

 

Ychwanegodd Elysia Dennis: “Doedd hi ddim yn teimlo fel bod y coleg yn gwneud popeth o fewn ei allu i helpu’r amgylchedd yn ystod cyfnod o argyfwng hinsawdd. Roeddwn am newid hynny.” Roedd y ferch 16 oed ymhlith y tîm aeth i Ffair Nadolig Prifysgol Caerdydd a chodi dros £100 drwy werthu cynhyrchion cynaliadwy a’r holl elw yn mynd tuag at ddarpar brosiectau y grŵp i helpu gwireddu gobeithion ‘gwyrdd’ ar gyfer y coleg. Diolch i ddyheadau ei fyfyrwyr a’i amgylchedd cefnogol, mae colegau fel Coleg Dewi Sant yn arwain y ffordd a chychwyn ar y daith i ennill dyfarniad Baner Werdd Ysgolion Eco, yn ôl dymuniad Eyitemi.

 

Felly, beth all ysgolion a cholegau ei wneud?

 

Eisoes, mae gan fyfyrwyr Coleg Catholig Dewi Sant eu cynigion o atebion. Mae Emily Brown yn credu y dylai colegau gychwyn drwy ostwng ac yn y pen draw wahardd plastig untro gan mai dim ond 14% o blastig untro yn y DU sy’n cael ei gasglu ar gyfer ail-gylchu. Dywedodd myfyriwr 16 oed sy’n astudio’r Celfyddydau Perfformio a Seicoleg: ‘Dylen ni fod yn ail-gylchu ac ail-ddefnyddio cynnyrch, a cheisio cynhyrchu cyn lleied o wastraff â phosibl. Dw i wedi dechrau gwneud hyn gartref, a chyflwyno bin compost yn ein gardd i ostwng gwastraff y cartref. Mae ffordd bell dan ni i fynd ond mae pob cam bach yn bwysig.”

 

Mae Willow yn cytuno, gan gredu y dylen ni fod yn defnyddio egni ac adnoddau adnewyddadwy le bynnag posibl. Mae hi’n gofyn i golegau chwarae rôl bwysig i addysgu pobl ifanc am y problemau ynglŷn â'r newid yn yr hinsawdd, yn eu hannog i weithredu ymhellach. “Tu allan i’r ysgol, rydw i’n defnyddio cludiant cyhoeddus a cherdded i bob man, defnyddio blychau y gellir eu hail-ddefnyddio, peidio â bwyta cig a phrynu gan fusnesau cynaliadwy lle bynnag fo’n bosibl. Rydw i hefyd yn rhan o'r prosiect cadwraeth bywyd gwyllt dan arweiniad ieuenctid mwyaf sydd i'w gael yn y byd." Ond hefyd mae’n deall nad pobl ifanc yn unig all arwain y newid.

 

“Mae angen i ni gyd wneud dewisiadau bach a chynaliadwy, ond mae angen cymorth corfforaethau mawr a’r boblogaeth gyfoethog arnon ni hefyd i ostwng allyriadau carbon yn sylweddol.” Mae myfyrwyr fel Eyitemi yn gweithio i wneud newidiadau bach lle bo’n bosibl, yn dewis siopa mewn siopau elusen ac ymestyn oes pethau drwy eu hailgylchu ac mae hi hefyd yn tyfu ei chynnyrch eu hun yn rhandir y teulu. Eto i gyd, ni allwn wadu yr effaith y mae corfforaethau mawr yn ei gael. Yn 2019 datgelodd, y Guardian y gellir cysylltu dros draean o holl ymyriadau nwyon tŷ gwydr yn yr oes fodern ag 20 o'r cwmnïau tanwydd ffosiledig, sef cyfanswm sy’n gyfwerth â 480bn o dunelli o garbon diocsid (GtCO2e) ers 1965.

 

Mae’n wir na all unigolion wyrdroi’r effaith hwn ar eu pen eu hunain a bydd yn golygu ymroddiad anhygoel i ostwng lefel y carbon a allyrrir yn flynyddol, ond mae grwpiau fel hyn yn hanfodol i’r drafodaeth, yn cadw’r mater yn fwy ym meddyliau sefydliadau addysgol ar draws De Cymru a thu hwnt.

 

Felly, beth nesaf ar gyfer y grŵp?

 

Dros y misoedd nesaf, bwriad y grŵp ydy cyflwyno a chynnig newidiadau pellach i wneud bywyd y coleg yn “wyrddach”. Nod Willow ydy cyflwyno cynllun cael ad-daliad am ddychwelyd pethau, lle gall myfyrwyr ffeirio cwpanau, poteli neu ganiau i'w hail-gylchu, ar ôl eu defnyddio, am arian a byddai hyn yn annog myfyrwyr i ail-gylchu ac mae myfyrwyr eraill eisoes yn ymchwilio i opsiynau ychwanegol y gall y coleg ei roi ar waith yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.