To view this page in Chinese, please click here.
Sut i Ymgeisio
Mae'n rhaid i chi fod rhwng 16-19 mlwydd oed i ymgeisio i Goleg Dewi Sant. Yn ogystal, fydd rhaid i chi gwrdd â'r meini prawf canlynol:
O leiaf chwech TGAU/TGAUR gradd C neu uwch i astudio tair lefel UG
NEU
O leiaf chwech TGAU gradd B neu uwch i astudio pedair lefel UG
Os nad ydy eich gwlad yn cynnig TGAU neu TGAUR, bydd angen i chi ddarparu eich adroddiadau blynyddol ar gyfer eich holl bynciau.
Os ydych yn cwrdd â'r meini prawf uchod, ac yn dymuno ymgeisio i Goleg Dewi Sant, dilynwch y camau isod os gwelwch yn dda:
- Lawr lwythwch ein ffurflen gais a'i ddanfon ar e-bost, gyda'r dogfennau isod, i internationalstudents@colegdewisant.ac.uk
- sgan o'ch pasbort a/neu wybodaeth eich fisa
- llythyr caniatâd o'ch rhiant neu warchodwr swyddogol os ydych o dan 18 mlwydd oed
- Bydd rhaid i chi sefyll prawf iaith Saesneg. Mae Coleg Dewi Sant yn gofyn i fyfyrwyr sefyll y prawf IELTS yn ei wlad ei hun i asesu ei gallu ieithyddol Saesneg. Mae'r Coleg angen sgôr o leiaf 5.5. Cliciwch yma i ddod o hyd i ganolfannau profi IELTS yn eich ardal chi.
- Os ydych yn cwrdd â'r meini prawf ar gyfer y cyrsiau rydych chi wedi dewis, byddech yn derbyn llythyr cynnig amodol.
- Ar ôl derbyn y llythyr cynnig amodol bydd angen i chi fodloni'r amodau a grybwyllwyd a thalu'r ffi gwrs.
- Unwaith y byddwch wedi bodloni holl amodau, byddwch yn derbyn cynnig diamod. Yna, bydd angen i chi wneud cais am fisa Asiantaeth Ffiniau'r DU. Gweler ein cyngor ar sut i gael hyn yma. Byddwn yn eich cynorthwyo drwy'r broses hon.
Nodwch fod y broses o gael fisa yn gallu cymryd sawl mis, felly gwnewch gais yn gynnar er mwyn osgoi unrhyw oedi i ddechrau eich addysg.
Cyn bod cadarnhad o dderbyn ar gyfer astudiaethau (CDA) yn cael ei gyhoeddi gan y Coleg, mae'r ddogfennaeth isod yn angenrheidiol:
- Ffurflen gais wedi ei chwblhau gyda datganiad personol wedi'i ystyried yn ofalus ble mae'r myfyriwr yn nodi ei rhesymau am ddod i'r DU i astudio
- Copi o basbort y myfyriwr yn cadarnhau cenedligrwydd ac oed
- Cymwysterau sy'n cyfateb â'r gofynion mynediad ar gyfer myfyrwyr y DU ar gyfer mynediad i astudio lefel 3 NQF. Mae astudiaeth Lefel 3 yn cael ei gynnig gan y coleg fel Safon Uwch.
- Cymwysterau sy'n dangos bod astudiaeth yn y coleg yn gam ymlaen o'u haddysg flaenorol
- Cyflwyno adroddiad academaidd neu eirda gan eu hysgol flaenorol gan ddangos dawn ar gyfer yr astudiaeth
- Tystysgrif Iaith Saesneg fel y'i mesurir gan IELTS gyda sgôr gyfartalog band o leiaf 5.5
- Cyfriflen banc ddim mwy nag 1 mis oed yn dangos bod gan y rhiant mynediad at arian i dalu am gostau cynnal a chadw a ffioedd dysgu hyd at £11,000 y flwyddyn.
- Tystysgrif geni'r myfyriwr sy'n dangos y berthynas rhwng y deiliad y cyfrif uchod a'r myfyriwr
- Llythyr oddi wrth y rhiant yn addo i gefnogi eu plentyn tra yn y Deyrnas Unedig
- Talu ffioedd dysgu
- Llofnodwyd cytundeb rhiant / gwarcheidwad sy'n cael ei lofnodi gan y ddau riant i roi caniatâd i deithio, derbynfa a gofal os yw'r myfyriwr o dan 18 oed
- Rhaid bod y myfyriwr yn cael eu cynghori i ddarparu'r holl ddogfennau a nodir o dan y CDA o dan 'tystiolaeth dan ba cynnig yn cael ei wneud'