Mae Coleg Dewi Sant yn cynnig cyrsiau Lefel 3 (Lefel A a BTEC) a Lefel 2 (TGAU a BTEC). Defnyddiwch y dolennau isod i ddarganfod mwy am bob cwrs sydd ar gael.
Mae Coleg Dewi Sant yn cynnig cyrsiau Lefel 3 (Lefel A a BTEC) a Lefel 2 (TGAU a BTEC). Defnyddiwch y dolennau isod i ddarganfod mwy am bob cwrs sydd ar gael.
Fyddech yn derbyn cefnogaeth ac arweiniad trwy gydol eich amser yng Ngholeg Dewi Sant er mwyn eich helpu i wneud y penderfyniadau gorau i chi. Mae hwn yn cynnwys: cyngor cyn-cyrraedd i sicrhau fod eich dewisiadau yn iawn i chi, cyngor dilyniant personol gan eich Hyrwyddwr Dysgu, Miss McLaren (Rheolwr Cyrchfannau a Dilyniant), a chymorth gyda’ch ceisiadau prifysgol, prentisiaeth neu swyddi.
Yn y chweched uchaf, bydd gan bob myfyriwr Mentor Dilyniant. Bydd yr aelod o staff yma yn gyfrifol am helpu pob un o’n myfyrwyr gyda benderfyniadau am eu dilyniant ac os yn berthnasol; arwain ein myfyrwyr trwy'r broses o ymgeisio i'r brifysgol; gan roi cyngor iddyn nhw am ofynion cyrsiau, annog nhw i fynychu diwrnodau agored Prifysgolion a ffeiriau addysg, marcio drafftiau o ddatganiadau personol, a chefnogi ceisiadau ar-lein.
Bydd gan bob myfyriwr mynediad i’r llyfrgell gyrfaoedd eang, wedi’i llenwi gyda phrosbectysau cyfredol a gwybodaeth dilyniant, sydd wedi’i leoli yn y Canolfan Adnoddau Dysgu (CAD).
Mae’r prifysgolion Grŵp Russel ac Ymddiriedolaeth Sutton yn cynnwys y Prifysgolion gorau ym Mhrydain. Maent yn ymroddedig i’r lefelau uchaf o ragoriaeth academaidd mewn addysg ac ymchwil. Mae myfyrwyr Coleg Dewi Sant yn ennill llefydd mewn Prifysgolion Grŵp Russel ac Ymddiriedolaeth Sutton yn gyson, gan gynnwys; Coleg Y Brenin Llundain, Prifysgol Bryste, Prifysgol Caerwysg, Coleg y Brifysgol Llundain, ac wrth gwrs, Prifysgol Caerdydd.
Am fwy o wybodaeth am gefnogaeth Prifysgolion Grŵp Russel neu Ymddiriedolaeth Sutton, cliciwch yma.
Yn y Gwanwyn, mae Coleg Dewi Sant yn cynnal noson gwybodaeth i fyfyrwyr a’i rhieni sydd eisiau darganfod mwy am yr amryw o ddewisiadau sydd ar gael ar ol gadael Coleg Dewi Sant, gan gynnwys cyngor ar UCAS (The Universities and Colleges Admissions Service). Mae’r noson yn cyflwyno gwybodaeth ar bopeth o ddatganiadau personol, i gyllid myfyrwyr a phwysigrwydd profiad gwaith. Mae dogfennau hefyd ar gael ar Ardal Rhieni ein gwefan, megis Canllaw UCAS i Rieni.
Trwy gydol y flwyddyn mae myfyrwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn cyfnodau profiad gwaith gyda busnesau lleol. Yn ddiweddar, wnaeth tri o fyfyrwyr Lefel A Almaeneg derbyn lleoliadau gyda ChandlerKSB. Gwnaethant gwblhau’r wythnos gyfan gan ddefnyddio’u sgiliau Almaeneg, gan dderbyn dealltwriaeth o’r byd gwaith a natur busnes rhyngwladol.
Yn ogystal â bod yn gyfle dysgu gwerthfawr a mewnwelediad i fywyd gwaith, mae profiad gwaith yn galluogi myfyrwyr i sefyll allan ar ei datganiadau personol ac ar geisiadau am swyddi. Bydd cyfleoedd amrywiol yn cael eu cynnig i fyfyrwyr ar e-bost a thrwy dudalen UCAS y Coleg ar Drydar @sdc_UCAS yn ystod y flwyddyn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses UCAS, cyngor gyrfaoedd neu gynllunio ar gyfer dilyniant, e-bostiwch Miss McLaren: omclaren@colegdewisant.ac.uk
Hefyd, mae llwyth o wefannau defnyddiol sydd â chyngor a chanllawiau ar gyfer brifysgolion: